18.9.09

Canu gwerin newydd



Oes 'na rywun sydd wedi cael gafael ar y cryno-ddisg newydd Cymraeg yng nghyfres y Smithsonian Folkways?

Dyma ddolen at y manylion.

Dydw i ddim wedi cael copi fy hun eto, ond mae'n swnio'n arbennig o dda, ac amrywiaeth hynod o artistiaid arno (o Ceri Rhys Mathews i Julie Murphy i Max Boyce... ie - Max Boyce!). Mae'n debyg, o'r hyn glywais i, fod y casgliad yn werth ei gael, a'r llyfryn sy'n mynd gyda'r CD yn swmpus a da hefyd.

17.9.09

Cysill ar-lein


Yn ogystal â bod Google yn cyfieithu i'r Gymraeg, mae Cysill bellach ar gael ar-lein hefyd (i gywiro'r Gymraeg honno efallai): dyma'r ddolen, a diolch i Vaughan Roderick am dynnu sylw at y ffaith yma.

6.9.09

Rhai Datblygiadau Diddorol


Wn i ddim faint ohonoch chi a sylwodd fod Google wedi rhyddhau meddalwedd sy'n cyfieithu o'r Gymraeg. A dweud y gwir, mae'n weddol dda. Y Gymraeg yw'r iaith ddiweddaraf i dderbyn sylw Google, am wn i, ac mae'r rhestr o ieithoedd eraill yn gymharol hir.

Os defnyddiwch chi'r teclyn ar y dde, fe welwch gyfieithiad o'r tudalen yma! Mae'n amlwg fod ambell i broblem, ond mae'n rhywbeth fydd yn gwella gydag amser, mae'n siwr.

Ar yr un pryd, dyma'r Cynulliad yng Nghaerdydd yn cyhoeddi na fyddan nhw'n parhau i ddarparu cofnodion dwyieithog. Mae hyn wrth reswm wedi creu storom o drafodaeth yng Nghymru. Am sylwadau yn dilyn yr helynt, ewch draw at flog Vaughan Roderick o'r BBC. Hefyd, dyma ddolen at gyfweliad da iawn gyda'r bargyfreithiwr Gwion Lewis.

Beth ydych chi'n meddwl? Ai'r economi yw'r peth pwysicaf yn yr achos yma?

21.8.09

pwynt gramadegol

Sut mae Aled,

Pam wyt ti'n dweud "ei" yn y frawddeg 'ma:

Beth wyt ti'n trio ei ddweud?

Chwedleuwr

18.8.09

Dadansoddi Brawddeg

Des i o hyd i’r frawddeg hon, wrth ddarllen “Clywed Cynghanedd” a chan imi fethu â'i deall hi, penderfynais ei dadansoddi ar y blog.

Cywiriadau, os gweli di’n dda.

“Yr hyn ddigwyddodd oedd bod gwahanol feirdd wedi sylwi ar y gynghanedd naturiol oedd yn digwydd mewn gwahanol glymiadau o eiriau ac wedi mynd i’r afael a hi oherwydd ei harddwch a’i hud.”

Yr--y fannod
hyn--goddrych, rhagenw dangosol trydydd person unigol
ddigwyddodd--3ydd person unigol, gorffennol
oedd--berf bod, amherffaith, traethiadol
bod--cyflwyno cymal enwol
gwahanol--ansoddair yn goleddfu "feirdd"
feirdd--goddrych, enw lluosog
wedi--ategydd berfol gorffenol
sylwi--berfenw
ar--adroddiad
y--y fannod
gynghanedd--gwrthrych enw unigol benywaidd
naturiol--ansoddair yn goleddfu "cynghanedd"
oedd--berf "bod" ffurf berthynol
yn--ategydd berfol
digwydd--berfenw
mewn--adroddiad cyn enw amhendant
gwahanol--ansoddair yn goleddfu'r gwrthrych
glymiadau—treiglad meddal yn dilyn ansoddair, gwrthrych lluosog yn dynodi rhif
o--arddodiad rhwng dau enw
eiriau—treiglad meddal yn dilyn arddodiad, enw lluosog
ac--cysylltair
wedi--ategydd berfol gorffenol
mynd--berfenw
i'r--arddodiad collnod fanned
afael--enw, gwrthrych
â--arddodiad
hi--rhagenw ategol
oherwydd--arddodiad
ei--rhagenw 3ydd person unigol
harddwch--enw
a--cysylltair
'i--rhagenw mewnol
hud--enw

Yr hyn ddigwyddodd--prif gymal
oedd--berf gwpladol
bod--cyflwyno cymal mewnol
gwahanol feirdd wedi sylwi ar y gynghanedd naturiol--cymal enwol
oedd yn digwydd mewn gwahanol glymiadau o eiriau--cymal perthynol (goddrych cynghanedd)
ac wedi mynd i'r afael â hi--parhad cymal enwol (goddrych beirdd)
oherwydd ei harddwch a'i hud--ymadrodd arddodiadol

11.8.09

Post gramadegol

Rydw i'n adolygu darn ac mae'r ffurf wreiddiol Gymraeg yn fy ngadael mewn ansicrwydd sut i gyfieithu'r ymadrodd "in grammar and mutations." Fydden ni'n dweud: "Cawsom ymarferion mewn gramadeg a threigladau" neu "Cawsom ymarferion yng ngramadeg a threigladau?" Diolch.

Neb?

10.8.09

cof gorau - cof y golau

Diolch am yr "hover text" Aled! Mae o'n ddefnyddiol ac yn hawdd i ddarllen.
Dw i'n cofio yr Eisteddfod orau -- gyda dawnsio "cowboi" y tiwtoriaid ... roedd o'n arbennig iawn!

9.8.09

Barn y Bobl

[This text contains hover-text -
hover your mouse over words
for translations, etc.]

Wel, rydych chi wedi
pleidleisio ac mae'r dewis
yn glir!

"Fel y Goleuni" yw'r disgrifiad sy'n siwtio'r Cwrs eleni orau!

Diolch ichi am bleidleisio - ac am fynychu'r cwrs!

Oes gyda chi unrhyw atgofion i'w rhannu gyda ni yma ar y blog?

Pa un digwyddiad (neu ddau!) sy'n sefyll ma's yn y cof o hyd?

8.8.09

helo, bawb

Helo! Ann ydw i.

Dw i'n byw ym Montreal, ond dw i'n dod o Ben Bedw (Birkenhead) yn Lloegr yn wreiddiol. Dw i'n athrawes yng Ngholeg John Abbott.

Does dim Cwrs Cymraeg ym Montreal! Bechod... Drist iawn. Felly, dw i'n dysgu'n "solo" efo llyfrau a'r rhyngrwyd...

Siaradodd fy Nain a fy Mam Gymraeg ac mae gen i lawer o deulu yn Ynys Môn ac yng Ngwynedd. Fel plentyn, es i i Ly^n yn yr haf, i Borthdinllaen (Morfa Nefyn). Mae hi'n hyfryd iawn.

Roedd fy Nain o bentref Gaerwen, yn agos i Langefni, yn Ynys Môn, yn wreiddiol.

Dw i'n gobeithio siarad Cymraeg a dw i'n hapus iawn i fod yn y "blog" efo chi. (Wrth gwrs, dw i'n "Gog" !).

hwyl

Ann

7.8.09

Helo Aled a pawb!

Helo:

Sara ydw i, ac rydw i'n byw yng Nghanada. Rydw i'n hoffi siarad Cymraeg, ac rydw i eisiau dysgu ysgrifennu a darllen. Rydw i eisiau dysgu sut strict-meter verse works. Rydw i'n canu celtic folk music. Rydw i eisiau canu yn Gymraeg at some point.

Diolch yn fawr!

Sara-Melangell
www.sarahillis.ca

4.8.09

Croeso i'r blog

[This text contains 'roll-over' translations and notes]



Helo! A chroeso i'r blog,
aelodau newydd!

Aled ydw i, ac rydw i'n byw yn Massachusetts. Rydw i'n astudio yn y brifysgol yma. Rydw i'n dod o Gymru yn wreiddiol, ond rydw i'n byw yn UDA ers pedair blynedd.

Rydw i'n gobeithio y bydd pawb yn ysgrifennu llawer yma.

Beth am ddechrau heddiw - ysgrifennwch ychydig o eiriau!

  • Pwy ydych chi?
  • O ble ydych chi'n dod?
  • Beth ydych chi'n ei wneud?
  • Ydych chi'n hoffi dysgu Cymraeg? Pam?

Rydw i'n edrych ymlaen at gael clywed gennych chi!

3.8.09

Ble, o ble mae fy llyfrau annwyl?

Rydw i wedi bod yn drist heddiw, achos mae fy llyfrau wedi'u pacio - yn arbennig fy llyfrau Cymraeg!

Môr o Gariad

[The text below contains roll-over translations and grammar notes]

A Chân y Siarc wedi gorffen, a phawb wrthi hefyd yn cyfieithu Harri Potter i'r Gymraeg, beth am ddechrau prosiect cyfieithu newydd o'r Gymraeg? Awgrymodd rhai y dylen ni wneud Meic Stevens, felly dyma ni.

**NB: rheolau newydd y tro 'ma - pawb i restru geirfa llawn ar gyfer pob llinell (fel sydd yn yr enghraifft ). Hefyd, pawb i roi crynodeb o ychydig o bwyntiau gramadegol diddorol (treigladau, etc.) Bydd hyn yn ei wneud yn fwy o 'spectator sport', a hefyd yn well ymarfer.


Môr o Gariad

Eistedd yma'n unig 'ben fy hun
Heno 'sdim amynedd i helbul byd
Ond mae'r nos yn ffoi, fel mae'r byd yn troi
Fel y môr o gariad a roddais iti.

'Sdim byd yma heno ond adlais cariad mawr
Ac ein gwydrau gweigion ar y llawr
Ac i gwpla'r llun; yn y botel gwaddod gwin
Gwaddod y môr o gariad a roddais iti

Hwn oedd cariad glân
Hwn oedd cariad ffôl
Roeddwn i ar dân
'Nawr 'sdim ar ôl

Strydoedd oer y ddinas, strydoedd mor llawn
Atgofion fydd amdani - ei serch a'i dawn
Serch hynny, mae'n rhaid byw, ymuno efo hwyl y criw
Sych yw'r môr o gariad a roddais iti

2.8.09

Harri Potter Llyfr 7

Beth am i ni drio cyfieithu hyn, i'r Gymraeg?

Pawb sy'n ffansio rhoi cynnig arni i baratoi ei fersiwn ef/hi ei hun, ac yna cawn drafod gwahaniaethau fesul paragraff.

Un paragraff (neu ddau neu dri pharagraff bach) bob rhyw ddau ddiwrnod?

Mi bostia i ddyfyniad arall, maes o law.


HARRY POTTER AND THE DEATHLY HALLOWS
CHAPTER 1
THE DARK LORD ASCENDING


The two men appeared out of nowhere, a few yards apart in the narrow, moonlit lane. For a second they stood quite still, wands directed at each other's chests; then, recognizing each other, they stowed their wands beneath their cloaks and started walking briskly in the same direction.

"News?" asked the taller of the two.

"The best," replied Severus Snape.

The lane was bordered on the left by wild, low-growing brambles, on the right by a high, neatly manicured hedge. The men's long cloaks flapped around their ankles as they marched.

"Thought I might be late," said Yaxley, his blunt features sliding in and out of sight as the branches of overhanging trees broke the moonlight. "It was a little trickier than I expected. But I hope he will be satisfied. You sound confident that your reception will be good?"

Snape nodded, but did not elaborate. They turned right, into a wide driveway that led off the lane. The high hedge curved with them, running off into the distance beyond the pair of impressive wrought-iron gates barring the men's way. Neither of them broke step: In silence both raised their left arms in a kind of salute and passed straight through, as though the dark metal were smoke.

The yew hedges muffled the sound of the men's footsteps. There was a rustle somewhere to their right: Yaxley drew his wand again, pointing it over his companion's head, but the source of the noise proved to be nothing more than a pure-white peacock, strutting majestically along the top of the hedge.

Cân y Siarc

Iawn, 'te!

Beth am ychydig o waith cyfieithu perthnasol, i ddechrau pethau?

Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â Chân y Siarc gan Gwyneth Glyn (i'w chlywed ar MySpace fan hyn). Awn ni ati felly, i'w chyfieithu i'r Saesneg, fesul pennill?

Cawn drafod unrhyw gwestiynau gramadegol fydd yn codi.

Dyma'r geiriau - pwy sydd eisiau mentro cyfieithu'r pennill cynta'? Cyfieithwn yn ddigon llythrennol ('literally'), fel bod y gramadeg yn glir.

1. Dau forwr dewr a dau frawd direidus
oedd yr hen King ac Owen Griffiths;
yn caru’r cwrw yn fwy na’r cefnfor,
yn gweld angylion ym mhob angor.

2. Un pnawn o haf a’r rhwydi’n drymion,
a’r ddalfa’n goeth o benwaig gwynion,
Mi welsant ’sgodyn tra gwahanol
yn gawr o gryndod yn eu canol

3. “Be’ ddiawl wnawn ni â’r cr’adur yma?
Rown ni o’n ôl yng nhgôl y tonnau?
“Mi awn ag o i dref Porthmadog;
mae hwn werth mwy na phum can pennog!”

4. A dyma’i godi ar eu ’sgwyddau
a chodi pabell o hen hwyliau
a bod mor hy â chodi ceiniog
am gip go sydyn o’r ’sgodyn enwog.

5. A dyna hwyl a dyna sbort
o weld y siarc yn y parc yn Port,
a phawb yn heidio o bob lle
i gael eu dychryn yn y dref.

6. “Wel dyma’r ddalfa ffeindia’ ’stalwm!
Awn am Y Fleece i wario’n ffortiwn!”
“Mi yfwn gwrw am y gorau,
a mi wnawn ni fwy o bres yn bora!”

7. Ar doriad gwawr daeth bloedd y Plismon
“Claddwch y cena ar eich union!
Erioed ni brofais y ffasiwn ddrewdod
mae Port i gyd yn drewi o bysgod!”

8. A’u pennau’n drwm ’rôl noson hegar,
mi gladdon y siarc yn ddyfn yn y ddaear;
a darfu’r hwyl a darfu’r arian
parhau wna’r hanes rhwng muriau’r dafarn.


1.8.09

Safle We'r Eisteddfod Genedlaethol

Y bore ‘ma, es i i safle we’r Eisteddfod am y tro cyntaf ers tair blynedd, credaf. Mae'n siwr fy mod wedi petrysu edrych arno o’r blaen, gan y byddai wedi codi hiraeth arnaf fi, wrth feddwl na allwn fod yna yn ystod y Brifwyl.

Mae'n amlwg nad yw gweld yr Eisteddfod ar y we yr un peth â bod yna, ond, mae’n debyg bod y BBC yn ceisio cadw’n ymwybodol o rif y bobl sy’n gwylio’r digwyddiadau ar y Maes yr wythnos hon. Mae'r safle we yn cael ei datblygu i fod yn fwy eang a chyfeillgar i’r defnyddiwr bob blwyddyn. DA DROS BEN!

30.7.09

Parhad Cwrs Madog 2009


Bant â'r cart!

Rwyf wedi rhoi'r rhif "6" yng nghyfeiriad y blog am taw dyna'r lefel 'roeddwn i'n gyfrifol amdani eleni, ond mae croeso i unrhyw un alw heibio a chyfrannu. Rhowch wybod i eraill, felly.

Dylai hyn fod yn waith dysgu, yn ogystal â bod yn hwyl (!), felly byddaf i naill ai'n cywiro'r blogiadau neu yn nodi gwallau a rhoi'r cyfle ichi gywiro'ch blogiadau'ch hun. Cawn hefyd drafod materion gramadegol os bydd angen.

Lle yw hwn i siarad am bob dim dan haul - a gallwn wneud unrhyw beth o gwbl. Beth am ddechrau drwy sôn ychydig am ein profiadau yn ystod yr wythnos yn Alberta?

Gyrhaeddoch chi adre' heb broblemau? Sut aeth y cwrs? Ddysgoch chi ddigon? Oedd y bwyd yn dda? Fwynheuoch chi'r Noson Lawen?