17.9.09

Cysill ar-lein


Yn ogystal â bod Google yn cyfieithu i'r Gymraeg, mae Cysill bellach ar gael ar-lein hefyd (i gywiro'r Gymraeg honno efallai): dyma'r ddolen, a diolch i Vaughan Roderick am dynnu sylw at y ffaith yma.

5 comments:

  1. Rydw i yn nau feddwl am feddalwedd fel yr un hon. Ar un llaw, wrth gwrs mae'n ddefnyddiol cael cywiro, am bwrpasau cyffredinol, gwaith ysgrifenedig, (dylwn i fod wedi ei drio fo fan hyn); ac wrth gwrs, mae'n braf gweld sylw y blogosphere ar y Gymraeg, ond o'r hyn y gwelaf, rydyn ni, (fel dysgwyr yr iaith Gymraeg) yn petruso ddigon rhag ymroi I’r gramadeg. Marciau llawn I Gysill a Google a’r gwedill … dylai’r Gymraeg gymryd ei le ymhlith yr ieithoedd eraill fel modd gredadwy o hunanfynegiant, ond nid ar draul ei dysgu’n gywir.
    (“Dylwn I siarad!” fel mae’n dweud)

    ReplyDelete
  2. Dwi ddim cweit yn deall, Rebecca - wyt ti'n awgrymu bod meddalwedd fel Cysill yn berygl i ddysgwyr? H.y. os yw pethau fel hyn ar gael, fydd neb yn dysgu'r iaith yn gywir?

    bwydais dy destun di i mewn i Cysill, a dim ond tri pheth daeth i fyny:

    i) I > i
    ii) modd gredadwy > modd credadwy
    iii) sylw y > sylw'r

    byddwn i'n ychwanegu'r pethau hyn:

    iv) yn nau feddwl > mewn dau feddwl
    v)fel yr un hon > fel hwn
    vi)cael cywiro > cael eich cywiro
    vii) yn petruso ddigon > yn petruso digon
    viii) rhag > ?
    ix) fel mae'n dweud > fel maen nhw'n dweud

    ReplyDelete
  3. Hwrê! Mae hwn yn wych! Bydd hwn yn help mawr i mi sgwennu fy mlog. Mi wnes i roi paragraff neu ddau iddo i'w gywiro. Ffeindion nhw ddau gamgymeriad yn syth:
    Gofynais - Gofynnais
    y ferch di-Gymraeg - y ferch ddi-Gymraeg

    Mae o hyd yn oed yn ofyn yn gwrtais ydw i'n fodlon derbyn ei awgrymiadau. ^^

    Mae gen i diwtor preifat rŵan!! Diolch o galon i ti Aled am y wybodaeth!!

    ReplyDelete
  4. Ie, bydd rhaglen fel Cysill Arlein yn help mawr, yn siwr, i ddysgwyr, ar ôl inni wedi gwneud yr ymdrech o ddod yn ymwybod o'n camgymeriadau posibl a sut ffeindio’r "pam" unwaith wedi cael eu cywiro gan raglen gyffelyb. Ynteu, rydyn ni'n dal i "ail-adrodd yr un cnewyllyn bach o gamgymeriadau" :) onid ydyn?

    ReplyDelete
  5. Helo Rebecca. Junko sy 'ma. Dw i'n siwr gall Cysill fod yn help i unrhywun sy'n sgwennu Cymraeg gan gynnwys Cymry Cymraeg. Mae hyd yn oed awduron yn dibynnu ar 'proofreaders.'

    Bydda i'n darllen pyst fy mlog droeon cyn ac ar ôl postio, ond mae'n anodd osgoi camgymeriadau. Mae rhai'n wallau syml ond mae'r lleill yn tarddu o gamddealltwriaeth a allu fod yn niweidiol i ddysgwyr.

    Felly croeso mawr i Gysill. (Mae'n rhad ac yn ddim hefyd!)

    ReplyDelete

symbolau defnyddiol:
â ê î ô û ẃ ẁ ŵ Ẃ Ŵ
Â Ê Î Ô Û ý ỳ ŷ Ý Ŷ

tagiau html defnyddiol:
<b>print du</b>
<i>print italig</i>
<a href="http://gwefan">dolen we</a>
<a title="neges gudd">testun rollover</a>