6.9.09

Rhai Datblygiadau Diddorol


Wn i ddim faint ohonoch chi a sylwodd fod Google wedi rhyddhau meddalwedd sy'n cyfieithu o'r Gymraeg. A dweud y gwir, mae'n weddol dda. Y Gymraeg yw'r iaith ddiweddaraf i dderbyn sylw Google, am wn i, ac mae'r rhestr o ieithoedd eraill yn gymharol hir.

Os defnyddiwch chi'r teclyn ar y dde, fe welwch gyfieithiad o'r tudalen yma! Mae'n amlwg fod ambell i broblem, ond mae'n rhywbeth fydd yn gwella gydag amser, mae'n siwr.

Ar yr un pryd, dyma'r Cynulliad yng Nghaerdydd yn cyhoeddi na fyddan nhw'n parhau i ddarparu cofnodion dwyieithog. Mae hyn wrth reswm wedi creu storom o drafodaeth yng Nghymru. Am sylwadau yn dilyn yr helynt, ewch draw at flog Vaughan Roderick o'r BBC. Hefyd, dyma ddolen at gyfweliad da iawn gyda'r bargyfreithiwr Gwion Lewis.

Beth ydych chi'n meddwl? Ai'r economi yw'r peth pwysicaf yn yr achos yma?

4 comments:

  1. Mae'r cyfieithiad i'r Japaneg yn dda i ddim. Dydy o ddim yn gwneud synnwyr o gwbl. Ac yn waeth na hynny, cyfieithwyd dy ddarn yma yn hollol anghywir:

    "dyma'r Cynulliad yng Nghaerdydd yn cyhoeddi na fyddan nhw'n parhau i ddarparu cofnodion dwyieithog."

    "dyma'r Cynulliad yng Nghaerdydd yn cyhoeddi y BYDDAN nhw'n parhau i ddarparu cofnodion dwyieithog."

    ReplyDelete
  2. Ie - mae 'na ambell i 'bug' yn y peth, on'd oes!? :)

    Mae'n well, serch hynny, na llawer iawn o'r teclynau cyfieithu eraill rwy' wedi'u gweld, ac os oes gen ti ychydig o grap ar iaith yn barod mae'n gallu bod yn help. Fe'i ces yn ddefnyddiol, er enghraifft wrth ddarllen y papurau newydd Almaeneg, iaith rwy'n ei deall yn eithaf da ond sydd eto'n fy nrysu'n lled aml!

    Ond rwyt ti'n llygad dy le - nid rhywbeth i newid y byd yw hwn... eto! (mae'n siwr y gwelliff yn y misoedd / blynyddoedd a ddaw, wrth i'r gronfa ddata o dermau ac ymadroddion dyfu).

    Mae'n debyg fod y teclyn hwn wedi'i selio ar gyfieithiadau'r Cynulliad. Mae nifer o bobl wedi sylwi ar rai cyfieithiadau rhyfedd sy'n codi oherwydd hynny - a sylwais i fod "Y Gymraeg" yn dod lan fel "the language" wrth drosi'r blog hwn! Diddorol iawn.

    ReplyDelete
  3. Maen nhw'n swnio'n llawer gwell yn y Saesneg er bod nhw'n gwneud yr un camgymeriad difrifol heb sôn am eu bod nhw'n ail-gyfieithu dy Saesneg tu chwith allan.. Fasai'r fersiwn Japaneg ddim yn helpu'r dysgwyr ond eu drysu nhw, mae arna i ofn. Ydy un Almaeneg cystal ag un Saesneg?

    ReplyDelete
  4. Neithiwr ces 'sgwrs' ('Chat' dros y we) eithaf boddhaol yn y Dwrceg gan ddefnyddio'r teclyn - roedd rhaid sicrhau taw brawddegau syml iawn a gafodd eu rhoi i'r peiriant (ac yna wirio yn ofalus, gan ddefnyddio'r hyn o ramadeg sy' gen i), ond llwyddais i raddau digon da (roedd fy nghariad yn gallu fy neall!). Dim ond darllen y papurau newydd a wnes i hyd yn hyn yn Almaeneg (ac ie - roedd hynny'n ddigon carbwl o bryd i'w gilydd!).

    Tybed sut bydd y dechnoleg yma yn datblygu. rwy'n sylwi, er enghraifft, fod cymalau perthynol yn un peth sy'n drysu'r peiriant wrth geisio cyfieithu o'r Gymraeg, ac yntau'n methu dadansoddi'n gywir beth yw'r gwrthrych a'r goddrych, gan gyfieithu'r rhagenw perthynol "a" weithiau fel 'and'. Dydy ef ddim yn deall rhagenwau mewnol, chwaith - mae'n cyfieithu "fe'u gwelaf" yn "were I see"!

    ReplyDelete

symbolau defnyddiol:
â ê î ô û ẃ ẁ ŵ Ẃ Ŵ
Â Ê Î Ô Û ý ỳ ŷ Ý Ŷ

tagiau html defnyddiol:
<b>print du</b>
<i>print italig</i>
<a href="http://gwefan">dolen we</a>
<a title="neges gudd">testun rollover</a>