30.7.09

Parhad Cwrs Madog 2009


Bant â'r cart!

Rwyf wedi rhoi'r rhif "6" yng nghyfeiriad y blog am taw dyna'r lefel 'roeddwn i'n gyfrifol amdani eleni, ond mae croeso i unrhyw un alw heibio a chyfrannu. Rhowch wybod i eraill, felly.

Dylai hyn fod yn waith dysgu, yn ogystal â bod yn hwyl (!), felly byddaf i naill ai'n cywiro'r blogiadau neu yn nodi gwallau a rhoi'r cyfle ichi gywiro'ch blogiadau'ch hun. Cawn hefyd drafod materion gramadegol os bydd angen.

Lle yw hwn i siarad am bob dim dan haul - a gallwn wneud unrhyw beth o gwbl. Beth am ddechrau drwy sôn ychydig am ein profiadau yn ystod yr wythnos yn Alberta?

Gyrhaeddoch chi adre' heb broblemau? Sut aeth y cwrs? Ddysgoch chi ddigon? Oedd y bwyd yn dda? Fwynheuoch chi'r Noson Lawen?