18.9.09

Canu gwerin newydd



Oes 'na rywun sydd wedi cael gafael ar y cryno-ddisg newydd Cymraeg yng nghyfres y Smithsonian Folkways?

Dyma ddolen at y manylion.

Dydw i ddim wedi cael copi fy hun eto, ond mae'n swnio'n arbennig o dda, ac amrywiaeth hynod o artistiaid arno (o Ceri Rhys Mathews i Julie Murphy i Max Boyce... ie - Max Boyce!). Mae'n debyg, o'r hyn glywais i, fod y casgliad yn werth ei gael, a'r llyfryn sy'n mynd gyda'r CD yn swmpus a da hefyd.

17.9.09

Cysill ar-lein


Yn ogystal â bod Google yn cyfieithu i'r Gymraeg, mae Cysill bellach ar gael ar-lein hefyd (i gywiro'r Gymraeg honno efallai): dyma'r ddolen, a diolch i Vaughan Roderick am dynnu sylw at y ffaith yma.

6.9.09

Rhai Datblygiadau Diddorol


Wn i ddim faint ohonoch chi a sylwodd fod Google wedi rhyddhau meddalwedd sy'n cyfieithu o'r Gymraeg. A dweud y gwir, mae'n weddol dda. Y Gymraeg yw'r iaith ddiweddaraf i dderbyn sylw Google, am wn i, ac mae'r rhestr o ieithoedd eraill yn gymharol hir.

Os defnyddiwch chi'r teclyn ar y dde, fe welwch gyfieithiad o'r tudalen yma! Mae'n amlwg fod ambell i broblem, ond mae'n rhywbeth fydd yn gwella gydag amser, mae'n siwr.

Ar yr un pryd, dyma'r Cynulliad yng Nghaerdydd yn cyhoeddi na fyddan nhw'n parhau i ddarparu cofnodion dwyieithog. Mae hyn wrth reswm wedi creu storom o drafodaeth yng Nghymru. Am sylwadau yn dilyn yr helynt, ewch draw at flog Vaughan Roderick o'r BBC. Hefyd, dyma ddolen at gyfweliad da iawn gyda'r bargyfreithiwr Gwion Lewis.

Beth ydych chi'n meddwl? Ai'r economi yw'r peth pwysicaf yn yr achos yma?