21.8.09

pwynt gramadegol

Sut mae Aled,

Pam wyt ti'n dweud "ei" yn y frawddeg 'ma:

Beth wyt ti'n trio ei ddweud?

Chwedleuwr

2 comments:

  1. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete
  2. Aha! Cwestiwn da. Dyma geisio esboniad.

    Rhowch wybod a yw hyn yn gwneud synnwyr.

    [Mae 'hover-text' yn yr esboniad, hefyd].


    Yn Gymraeg, mae'n rhaid cofio bob tro ein bod ni'n defnyddio berfenwau yn aml iawn, ac nid berfau ydy'r rhain. Mae gramadeg y berfenw yn bwysig iawn, felly, ac yn wir mae'n allwedd i lawer o ramadeg y Gymraeg. I bob pwrpas, enw yw berfenw, a gramadeg y berfenw yw gramadeg yr enw.

    Ystyriwn y brawddegau hyn:

    1. cath Gareth - Gareth's cat
    2. mam Gareth - Gareth's mum
    3. canu Gareth - Gareth's singing

    Mae'n amlwg fod y berfenw yn gweithio'n gymwys fel enw, ac - wrth gwrs - mae perthynas genidol yn ffurfio rhwng dau enw sydd wrth ochr ei gilydd mewn brawddeg Gymraeg ("XY" = "X of Y").

    Felly, pan fydd gyda ni frawddegau fel:

    4a. rydw i'n hoffi coffi; neu
    5a. rydw i'n gwneud pethau

    perthynas genidol sydd rhwng y berfenw a'r gwrthrych:

    4b. I'm in [a state of] the liking of coffee
    5b. I'm in [a state of] the doing of things

    Nawr, 'te, mae'n rheol yn y Gymraeg fod rhaid i'r gwrthrych i'r berfenw fod yn y frawddeg wrth ochr y berfenw. Os ffurfiwn ni gymalau perthynol drwy flaenu'r goddrychau yn y brawddegau hyn, fe welwch beth ydw i'n ei olygu:

    4c. coffi rydw i'n ei hoffi
    5c. pethau rydw i'n eu gwneud

    Mae gramadeg y Gymraeg yn gofyn inni roi'r rhagenw blaen yn lle'r gwrthrych sydd wedi symud o ochr y berfenw i flaen y frawddeg. Mae angen rhyw fath o wrthrych ar y berfenw o hyd!

    Yn aml, ar lafar, bydd y rhagenw blaen yn cael ei golli, ond bydd unrhyw dreiglad yn aros:

    6a. beth wyt ti'n ei feddwl? =
    6b. beth wyt ti'n 'feddwl?

    Ond hefyd, mae'n wir, weithiau bydd pobl jyst yn colli'r rhagenw:

    6c. beth wyt ti'n meddwl?

    Dyma beth sy'n digwydd yn y frawddeg "Beth wyt ti'n trio ei ddweud?" Mae'r "ei" yn dangos taw gweithred ferfol anghyflawn sy'n cael ei gyfleu gan y "dweud" (hynny yw, dy fod di'n ceisio dweud rhywbeth. Ystyriwn y ddwy frawddeg hyn:

    7. Beth - wyt ti'n trio canu? - 'What - are you trying to sing?' (i.e. nothing in particular, just the action of singing)

    8. Beth wyt ti'n trio'i ganu? - 'What are you trying to sing?' (i.e. 'what is the object?')

    Os ydyn ni'n colli'r "ei" o'r frawddeg "Beth wyt ti'n trio ei ddweud", mae'r ystyr yn mynd yn agos i ystyr (7) - hynny yw 'What - are you trying to tell?' - a dydy hynny ddim yn gwneud synnwyr!

    Eto, fel y dywedais - brawddeg (6c)- nid bob tro y bydd pobl yn dilyn y rheol yma.

    ReplyDelete

symbolau defnyddiol:
â ê î ô û ẃ ẁ ŵ Ẃ Ŵ
Â Ê Î Ô Û ý ỳ ŷ Ý Ŷ

tagiau html defnyddiol:
<b>print du</b>
<i>print italig</i>
<a href="http://gwefan">dolen we</a>
<a title="neges gudd">testun rollover</a>