3.8.09

Môr o Gariad

[The text below contains roll-over translations and grammar notes]

A Chân y Siarc wedi gorffen, a phawb wrthi hefyd yn cyfieithu Harri Potter i'r Gymraeg, beth am ddechrau prosiect cyfieithu newydd o'r Gymraeg? Awgrymodd rhai y dylen ni wneud Meic Stevens, felly dyma ni.

**NB: rheolau newydd y tro 'ma - pawb i restru geirfa llawn ar gyfer pob llinell (fel sydd yn yr enghraifft ). Hefyd, pawb i roi crynodeb o ychydig o bwyntiau gramadegol diddorol (treigladau, etc.) Bydd hyn yn ei wneud yn fwy o 'spectator sport', a hefyd yn well ymarfer.


Môr o Gariad

Eistedd yma'n unig 'ben fy hun
Heno 'sdim amynedd i helbul byd
Ond mae'r nos yn ffoi, fel mae'r byd yn troi
Fel y môr o gariad a roddais iti.

'Sdim byd yma heno ond adlais cariad mawr
Ac ein gwydrau gweigion ar y llawr
Ac i gwpla'r llun; yn y botel gwaddod gwin
Gwaddod y môr o gariad a roddais iti

Hwn oedd cariad glân
Hwn oedd cariad ffôl
Roeddwn i ar dân
'Nawr 'sdim ar ôl

Strydoedd oer y ddinas, strydoedd mor llawn
Atgofion fydd amdani - ei serch a'i dawn
Serch hynny, mae'n rhaid byw, ymuno efo hwyl y criw
Sych yw'r môr o gariad a roddais iti

53 comments:

  1. Eistedd yma'n unig 'ben fy hun

    eistedd sitting (vn)
    yma here
    'n = 'yn', predicative particle
    unig lonely, alone
    ben fy hun = 'ar ben fy hun', on my own [also written 'ar fy mhen fy hun']

    Does dim treigladau yn y llinell yma.

    = Sitting here lonely, on my own

    ReplyDelete
  2. This comment has been removed by a blog administrator.

    ReplyDelete
  3. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete
  4. Mona,

    I took off most of your comment since it broke the new house rules of a line at a time! [teyrn yn y ty^!]. This way (I hope) we'll get to discuss what we're not sure of, and better understand the language we're translating. It'll also make it easier for those who are following without participating to understand what's happening (and possibly learn from our work).

    Here's the second line back, as you translated it. I've supplied the vocab list - do you want to finish the translation and add any other thoughts (or questions to discuss)?

    Heno 'sdim amynedd i helbul byd

    heno tonight
    'sdim = "does dim" 'there is/are no(t)" [negative existential construction]
    amynedd patience
    i for (prep. with 'amynedd')
    helbul trouble, trials, etc.
    byd world

    Tonight ___ no patience for ___ world

    ReplyDelete
  5. Mona - anghofiais ddweud: gwaith da iawn! Mae'r cyfan lot yn barod gyda ti 'nawr i'w roi inni fesul darn! :)

    (Ac rwyt ti wedi rhoi 'cheat sheet' i'r gweddill ohonon ni!)

    ReplyDelete
  6. Ok, sori Aled. So the rheolau newydd means we do one line at a time?

    And the second line says, "Tonight there is no patience for the world's troubles/trials"?

    Mona

    ReplyDelete
  7. Yn hollol! "helbul byd" = 'the trouble of the world' or 'the world's trouble'.

    Felly:

    tonight there's no patience for the trouble of the world

    Gwych! Nawr 'te - y llinell nesa'...

    Ond mae'r nos yn ffoi, fel mae'r byd yn troi.

    ReplyDelete
  8. By the way - the main blog text for this translation project contains "rollover" translations of many words - just hover the mouse over them to see the English (e.g. "rheolau" will give you the translation "rules").

    ReplyDelete
  9. Ond mae'r nos yn ffoi, fel mae'r byd yn troi

    But the night flees, as the earth turns?

    Mona (doing this from memory as I didn't keep a copy of my full translating effort)

    ReplyDelete
  10. Cw^l! 100% A+

    OK, so the meaning is there - now, then: what are the individual words? (i.e. how does this line *work*)?

    ReplyDelete
  11. Dim yn siwr--it is pretty word-for-word, me thinks.

    ReplyDelete
  12. Fel y môr o gariad a roddais iti.


    Dw i ddim ymdeall y hwn 'ma.

    'As the sea of love and and a gift to you'

    does not make sense...

    Beth ydy "roddais iti"? Hint, os gwelewch yn dda!

    ReplyDelete
  13. So, to finish work on the second line, here's the vocab:

    ond but
    mae is (third person singular, 'bod')
    'r contracted form of 'y(r)', 'the'
    nos night
    yn verbal particle ('imperfective': used to indicate that the verbal action is not completed)
    ffoi fleeing, escaping (vn)
    fel as, like
    byd world
    yn verbal particle again as above
    troi turning (vn)

    but the night flees, as the world turns

    And likewise, for the third:

    fel like, as
    y definite article ('the')
    môr sea
    o of (causes soft mutation)
    cariad love
    a relative pronoun ('which, who' etc.; causes soft mutation)
    rhoddais past tense of 'rhoi'; first person singular
    iti inflected form of 'i': 'to you'

    like the sea of love (which) I gave to you.

    Cwestiynau? Beth am y llinell nesaf?

    Who fancies the next line, with word-lists (they don't have to be dreadfully detailed)?

    ReplyDelete
  14. 'Sdim byd yma heno
    There is no world here tonight

    'Sdim = There is no
    byd = world
    yma = here
    heno = tonight

    ReplyDelete
  15. Mona:

    Yep...

    'sdim is indeed again the contracted form of does dim 'there is no(t)' [itself contracted from nid oes dim] but "dim byd" most commonly translates as 'nothing'. So 'sdim byd yma heno = 'there's nothing here tonight'.

    ReplyDelete
  16. Ond adlais cariad mawr
    ond-but
    adlais-echo
    cariad-love
    mawr-big, great

    "There's nothing here tonight but the echo of great love"?

    ReplyDelete
  17. Yay! Da iawn!

    dim byd ... ond = nothing ... but

    there's nothing here tonight but the echo of (a) great love.

    [grammar point for 'eavesdroppers': notice that two nouns next to each other in a Welsh clause are in a genitive relationship; i.e. the first one is possessed by the second one. Here we have [adlais] [cariad mawr], i.e. [echo][(a) great love] which translates as "(the) echo (of) a great love." Watch out for this structure in future. I usually refer to this as the "(the) X of Y" structure since "XY" in welsh gives "(the) X of Y" in English (or, of course, "Y's X".

    Pwy sy' eisiau gwneud y llinell nesa'?

    ReplyDelete
  18. Ac ein gwydrau gweigion ar y llawr
    ac-and
    ein-our
    gwydrau-I get "goggles," but I don't know if there's a different meaning in this context.
    gweigion-Dim syniad. But I'm guessing it's an adjective.
    ar-on
    llawr-floor

    "And our 'gweigion' goggles are on the floor."

    It sounds ridiculous. Am I way off, here?

    ReplyDelete
  19. OK, let's analyse the words you couldn't find:

    gwydrau has the plural ending -au, so the singular, gwydr, might give a hint.

    likewise, gweigion, which you correctly guess to be an adjective (unmutated after the plural noun), has the plural ending -ion. That leaves gweig- and we should bear in mind internal vowel changes (e.g. "a" -> "ei").

    You have the verb 'to be' in your translation, Maegan ('are...'). That might be a little brave of you! :)

    ReplyDelete
  20. gwag - adjective. empty, vain, vacant. for a plural noun: gweigion. Nodyn sillafu - There are two hints that this is a plural adjective, felly, yr o^l-ddodiad "-ion" ac yr "-ei-" ... Mae'r "-a-" yn mynd i "-e-" yn y plural [fel bachgen --> bechgyn).. so, hop the the geiriadur .. "gwag. ll. gweigion"

    gwydr - glass pl. gwydrau.

    empty glasses

    This ties in poetically with the emptiness of his life ...

    ReplyDelete
  21. Grêt! Da iawn, Shirley a Megan:

    'Sdim byd yma heno ond adlais cariad mawr
    Ac ein gwydrau gweigion ar y llawr

    There's nothing here tonight but the echo of (a) great love,
    And our empty glasses on the floor.


    Ymlaen â ni? Oes cwestiynau?

    ReplyDelete
  22. Ac i gwpla'r llun; yn y botel gwaddod gwin

    And to complete the picture; in the bottle of sediment of wine

    i --> trygladd meddal ar "cwpla" .. forming an infinitive (?)
    genetive relationship of 3 adjacent nouns: botel, gwaddod, gwin.
    It sounds stilted to say "sediment of wine" .. but it leads into the next line where "sediment" best comes before the words that closed the first stanza.

    ReplyDelete
  23. Gwaddod y môr o gariad a roddaist iti.

    The sediment of the sea of love that I gave to you.

    "The" - definite article because the rest of the line defines which sediment it is.
    ô - & # 2 4 4 ; (omit the spaces when in the edit mode)

    missing a verb [bod] here -- poetic license. "is" - implied by "heno" (tonight)
    "o" - one of the prepositions that causes soft mutation.
    a - relative pronoun that causes soft mutation
    iti - conjugated second person familiar form of the pronoun "i".

    ReplyDelete
  24. Dim problem. My name gets mispelled all the time.

    Hwn oedd cariad glan

    hwn-this
    oedd-imperfect tense of 'bod'
    glan-clean, or maybe 'pure' would work better here

    "This was pure love"

    ReplyDelete
  25. OK. Gwd.

    We need, though, to think again about the couplet with the sediment.

    yn y botel is adverbial (i.e. it doesn't take part in the genitive noun phrase).

    Ydy hynny'n helpu?

    ReplyDelete
  26. Dw i'n gwybod "yn + ansoddair" = adferb .. Mae hon "yn + enw" .... Beth sy' wedi disgrifio "yn y botel"? ... ferb? ansoddair? Mae "Yn y botel" yn disgrifio ble ydy'r "gwaddod y môr o gariad ..."

    And to complete the picture: Bottled in the sediment of wine / the sediment of the sea of love that I gave to you.

    More natural to the English ear:
    And to complete the picture: The sediment of the ocean of love that I gave to you is bottled in the sediment of wine.

    ReplyDelete
  27. Rwyt ti'n iawn, Shirley, pan wyt ti'n dweud:

    "Mae "yn y botel" yn disgrifio ble [mae] "gwaddod y môr o gariad.""

    Ie - adferf yw "yn y botel": 'in the bottle'.

    Felly:

    And to complete the picture: in the bottle[,] remnants (sediment) of wine;
    (the) remnants of the sea of love which I gave you.


    Mae Maegan wedi dechrau'r llinell nesa' - awn ni ymlaen, neu a oes cwestiynau ynghylch hyn hyd yma?

    ReplyDelete
  28. Hwn oedd cariad ffôl

    This was (a) fool's love

    Y tôn o'r lun sy' yr un ac y lun flaenorol. Mae'r geir yn archeb yr un hefyd (yn Gymraeg). Yn Saesneg mae ansoddair yn mynd ymlaen yr enw. Felly, rhaid i fi ddewis "fool's love" neu "a fool's love" na "the love of a fool." OND: Dw i'n credu bod "the love of a fool" yn well yn Saesneg na "fool's love" achos y gariad honno sy' cariad arbenigol. Felly:

    This was the love of a fool.

    ReplyDelete
  29. Hwn oedd cariad gla^n; hwn oedd cariad ffo^l

    Rydych chi, Maegan a Shirley, yn iawn, wrth gwrs. Eto, Shirley, tybed a oes ffordd arall o ddehongli "cariad ffo^l"? (Ychydig yn debycach i hanner cynta'r llinell, efallai.)

    [sylwn, wrth fynd heibio, nad yw trefn y geiriau yn 'normal' fan hyn, gyda 'hwn' yn dod yn gyntaf - trefn 'farddonol' braidd, efallai]

    ReplyDelete
  30. A pure love was this / A fool's love was this

    ReplyDelete
  31. A pure love was this / A foolish love was this

    ReplyDelete
  32. Roeddwn i ar dân
    'Nawr 'sdim ar ôl

    I was on fire
    Now there is no trace

    ReplyDelete
  33. OK, amysif - beth am y geiriau unigol?

    ReplyDelete
  34. Helo, Shirley! Sut wyt ti? Do'n i ddim yn gwybod pwy oedd yn cuddio tu o^l i'r enw 'na! :)

    ReplyDelete
  35. Roeddwn - first person imperfect singular of bod. I was
    i - I
    ar dân - on fire
    'Nawr - Yn awr ... in air? barddonol .. going back to the roots of "nawr" ..?
    'sdim - ydys dim (impersonal present of bod) + nothing
    ar ôl - remaining

    ok .. forget the ôl=trace or track ..
    I was on fire
    Now there is none remaining

    ReplyDelete
  36. Shirley -

    Dw i ddim cweit yn deall y "cell", ond ar wahân i hynny:

    :) ie!

    yn hollol - mae nawr yn tarddu o yn awr.

    ond nid in air - yr 'awr' yma yw 'hour'.

    (mae rwan hefyd yn tarddu o yn yr awr hon, ac felly pam mae pobl yn dal i ddweud yrwan hefyd).

    ReplyDelete
  37. Strydoedd oer y ddinas, strydoedd mor llawn

    cold streets of the city, streets so full

    stryd - street. Mae sŵn yr "y" yn wahanol yn strydoedd.

    oer - cold; oblaen enw --> treiglad meddal
    dinas - city; benywaidd unigol. "Y" --> treiglad meddal

    mor - so
    llawn - full

    ReplyDelete
  38. Atgofion fydd amdani - ei serch a'i dawn

    (Being) with her will be a memory - her love and her power

    atgof - rememberance / memory
    fydd - third person singular future bod
    am - with / around. Amdani - feminine form
    flip the word order with copula in English

    serch a dawn - not sure what overtones there are in these words. Dictionary just said love and power ...

    ReplyDelete
  39. wwps ... a'i dawn .. and HER .. 'sdim treiglad meddal ar "dawn" ...

    obvious from the context, too ...

    ReplyDelete
  40. 1. cofiwn y rheol:

    "XY" yn Gymraeg --> "(the/a) X of Y" yn Saesneg

    felly:

    [strydoedd oer] [y ddinas]
    --> (the) [cold streets] of [the city]

    2. Does dim byd y gall "oer" achosi treiglad iddo yn fan hyn. Yr enw sy'n mynd gydag 'oer' yw 'strydoedd', ac mae 'oer' yn dod ar ei ôl). Ond rwyt ti'n hollol gywir am y treiglad ar ôl "y".

    3. Mae problem gyda'r llinell nesa':

    atgofion fydd amdani

    amdani around/about her
    dawn talent, gift (nid power)

    ReplyDelete
  41. Dylwn fod wedi nodi: yn Gymraeg, byddwch chi'n gwisgo dillad amdanoch.

    ReplyDelete
  42. Serch hynny, mae'n rhaid byw, ymuno efo hwyl y criw


    This (is) love, it is a necessity of living, uniting with itself wind and crew

    serch - love
    hynny - this. rhagenw.

    mae'n - not sure why the "yn" got attached to mae (third person singular of bod, but I think the pronoun got absorbed in there, too. Mae e'n rhaid byw

    rhaid - necessity. Usually translated "necessary" ..

    byw - ferbenw. living.

    genitive relationship rhwyng 'rhaid' a 'byw'

    ymuno - ferbenw. uniting.
    efo - masculine (which is why it's mae e'n instead of mae hi'n). "Long form" of "e" or "o" or "fe" ...
    hwyl - the wind that fills the sails ..
    criw - crew .. the muscle that makes the vessel move ..

    love + spirit + body = living

    ReplyDelete
  43. Bron â bod!

    Mae serch yn gallu golygu 'love', mae'n wir, ond dydy "[enw] + [hynny]" dim yn golygu dim yn Gymraeg.

    Rwyt ti'n cyfieithu "this is love" - yn Gymraeg, hynny fyddai "Dyma gariad" neu "hwn/hynny yw cariad" (neu "dyma serch" etc.). Fedri di ddim rhoi'r "hynny" ar ôl yr enw yn yr achos yna.

    Na - ystyr y serch yma, cyn y dangosol ('demonstrative') yw 'although', 'in spite of'. Felly, serch hynny = in spite of that

    Hefyd, un neu ddau wall pwysig arall:
    mae'n rhaid [berfenw] = one must [verb] neu you have to [verb]
    hwyl = fun
    efo = gyda [efô = efe]
    y this is the def. article, not the connective ('and').

    ReplyDelete
  44. *hwyl - taith; cwrs, rhediad; mantell. Journey; course; cloak; ...
    hwyl - 1. cyflwr, mwynhad, tymer. Mood.
    2. cynfas ar hwylbren llong. Sail.
    3. ffordd arbennig o ddweud neu lafarganu wrth annerch, etc. Sing-song, Cadence.
    ...
    hwylio - to sail

    uniting with the mood of the crew

    ReplyDelete
  45. Sych yw'r môr o gariad a roddais iti

    Dry is the sea of love that I gave to you.

    Sych - dry. complement in this sentence
    yw - present tense bod (copula here)
    'r - definite article after a vowel ("yr")
    The rest was given by Gwybedyn
    August 4, 2009 12:42 PM

    ReplyDelete
  46. Atgofion fydd amdani - ei serch a'i dawn

    Around her will be memories - her affection and her talent

    fydd - bydd. soft mutation after complement

    a - and

    ReplyDelete
  47. 2. Does dim byd y gall "oer" achosi treiglad iddo yn fan hyn. Yr enw sy'n mynd gydag 'oer' yw 'strydoedd', ac mae 'oer' yn dod ar ei ôl). Ond rwyt ti'n hollol gywir am y treiglad ar ôl "y".

    August 10, 2009 6:33 PM

    Dw i ddim yn deall. I translated "Strydoedd oer y ddinas, strydoedd mor llawn" as

    cold streets of the city, streets so full

    I understand why you add the definite article (the cold streets of the city), but I felt my translation was unambiguous (particularly since it is followed by "streets so full"). How could what I wrote possibly be seen as "cold city" .. or what else could "cold" be modifying?

    ReplyDelete
  48. i) oerYour translation was fine, but I was just clarifying what you said in your explanation about 'oer' mutating the noun it precedes: "oer - cold; oblaen enw --> treiglad meddal".

    ii) ymuno efo hwyl y criw
    beth am joining in with the fun of the gang/crew ('joining' yn lle 'uniting')?

    iii) amdani
    gan ystyried y metaffor taw ei dillad yn y noson oer fydd yr atgofion, a fyddai 'about her' yn dda fan hyn?

    iv) a'r darn arall: serch hynny mae'n rhaid byw = 'for all that, you have to live'.

    ReplyDelete
  49. Da iawn ydw cariad llawr lng

    ReplyDelete

symbolau defnyddiol:
â ê î ô û ẃ ẁ ŵ Ẃ Ŵ
Â Ê Î Ô Û ý ỳ ŷ Ý Ŷ

tagiau html defnyddiol:
<b>print du</b>
<i>print italig</i>
<a href="http://gwefan">dolen we</a>
<a title="neges gudd">testun rollover</a>