Rydw i'n adolygu darn ac mae'r ffurf wreiddiol Gymraeg yn fy ngadael mewn ansicrwydd sut i gyfieithu'r ymadrodd "in grammar and mutations." Fydden ni'n dweud: "Cawsom ymarferion mewn gramadeg a threigladau" neu "Cawsom ymarferion yng ngramadeg a threigladau?" Diolch.
Neb?
11.8.09
12 comments:
symbolau defnyddiol:
â ê î ô û ẃ ẁ ŵ Ẃ Ŵ
Â Ê Î Ô Û ý ỳ ŷ Ý Ŷ
tagiau html defnyddiol:
<b>print du</b>
<i>print italig</i>
<a href="http://gwefan">dolen we</a>
<a title="neges gudd">testun rollover</a>
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
pwyntiau gramadegol:
ReplyDeletei) mae "ffurf" yn fenywaidd
ii) mae 'fy' yn achosi TT
iii) mae 'amau' yn ferfenw ('doubting') nid enw ('doubt')
iv)mae eisiau 'i' gyda 'sut'
Rydw i'n adolygu darn ac mae'r ffurf wreiddiol Gymraeg yn fy ngadael mewn amheuaeth sut i gyfieithu'r ffras "in grammar and mutations." Fydden ni'n dweud: "Cawsom ymarferion mewn gramadeg a threigladau" neu "Cawsom ymarferion yng ngramadeg a threigladau?" Diolch.
ReplyDeleteNeb?
Nawr, 'te, be am y cwestiwn ei hun?
"mewn" yw'r ateb cywir, 'swn i'n dweud. Eto, fedri di ddim dweud "mewn treigladau" heb iddo swnio'n chwithig iawn - byddai 'mewn treiglo yn well, ond beth am ddweud:
ReplyDelete"Cawsom ddigon o gyfle i ymarfer gramadeg a threigladau" neu rywbeth tebyg?
Diolch. Gwell gennyf gadw cynagosed wrth y gwreiddiol â phosibl, heb wallau gramadegol, felly, af efo "mewn traeglo a gramadeg."
ReplyDeletewel, dyna dy ddewis di.
ReplyDeleteeto, byddwn i'n awgrymu'n gryf dy fod di'n sillafu "treiglo" yn gywir. :)
"Mewn T R E I G L O a gramadeg" 'te, wrth ddeall mai "ddigon o gyfle i ymarfer gramadeg a threigladau" sydd llai chwithig. :)
ReplyDelete... sydd YN llai chwithig.
ReplyDeleteThis comment has been removed by the author.
ReplyDeleteOherwydd mai "llai" yn ansoddu'r ferf "bod?" fel yn "sydd?" Ro'n i'n meddwl mai ""llai chwithig" yn ansoddu'r ffras sy'n rhwng dyfynnodau. (“Mewn treiglo,” blah blah blah) ? Cymysglyd!
ReplyDeletemae'r gath yn ddu
ReplyDeletemae'r gair yn chwithig
mae'r gair yn llai chwithig
mae'r ymadrodd yn llai chwithig
hwn yw'r ymadrodd sydd yn llai chwithig.
rwy'n deall mai hwn yw'r ymadrodd sy'n llai chwithig.
Iawn.
ReplyDeleteeto i gyd, byddai efallai'n symlach i ddweud rhywbeth fel:
ReplyDeletegan ddeall BOD "..." yn llai chwithig.
Yn yr un modd, edrychwn ar dy frawddegau diweddarach:
1. "Oherwydd mai "llai" yn ansoddu'r ferf "bod?" fel yn "sydd?"
Tria: "Oherwydd BOD "llai" yn goleddfu'r ferf 'bod'"
2. "Ro'n i'n meddwl mai "llai chwithig" yn ansoddu'r ffras sy'n rhwng dyfynnodau.
eto, tria: "Ro'n i'n meddwl BOD "llai chwithig" yn goleddfu'r ymadrodd..."
cofia sut i ffurfio cymal isradd; yn y presennol a'r amherffaith ceir cymal 'bod'. Er enghraifft, mae "mae" yn newid yn "bod":
- mae'r frawddeg yn chwithig.
-> rwy'n credu BOD y frawddeg yn chwithig.
a phersonau eraill yn debyg:
- rydw i'n hapus
--> gwyddost FY MOD yn hapus.
Dyma'r prif-reolau:
1. presennol neu amherffaith: cymal 'bod':
Credaf FOD hyn yn iawn.
Gwn DY FOD di'n iawn
2. dyfodol neu amhenodol: cymal 'y'
Credaf Y BYDDI di'n iawn
Gwn Y DAW y dydd
3. gorffennol: cymal 'i'
Clywais ITI ddarllen y llyfr.
4. nid yw'r ferf yn dod yn gyntaf yn y cymal: cymal 'mai/taw'
Clywais mai'r ferf oedd yn gyntaf
Gwn taw'r ansoddair sy'n goleddfu'r enw
Gweli mai'r bobl sydd yma fydd yno hefyd
5. negyddol: cymal 'na(d)'
Clywais NA DDARLLENAIST y llyfr
Rwy'n amau NA FYDDI di'n iawn
Gwyddost NAD YDW i'n Ffrancwr
Dywedaist NA CHEST ti ginio