2.8.09

Harri Potter Llyfr 7

Beth am i ni drio cyfieithu hyn, i'r Gymraeg?

Pawb sy'n ffansio rhoi cynnig arni i baratoi ei fersiwn ef/hi ei hun, ac yna cawn drafod gwahaniaethau fesul paragraff.

Un paragraff (neu ddau neu dri pharagraff bach) bob rhyw ddau ddiwrnod?

Mi bostia i ddyfyniad arall, maes o law.


HARRY POTTER AND THE DEATHLY HALLOWS
CHAPTER 1
THE DARK LORD ASCENDING


The two men appeared out of nowhere, a few yards apart in the narrow, moonlit lane. For a second they stood quite still, wands directed at each other's chests; then, recognizing each other, they stowed their wands beneath their cloaks and started walking briskly in the same direction.

"News?" asked the taller of the two.

"The best," replied Severus Snape.

The lane was bordered on the left by wild, low-growing brambles, on the right by a high, neatly manicured hedge. The men's long cloaks flapped around their ankles as they marched.

"Thought I might be late," said Yaxley, his blunt features sliding in and out of sight as the branches of overhanging trees broke the moonlight. "It was a little trickier than I expected. But I hope he will be satisfied. You sound confident that your reception will be good?"

Snape nodded, but did not elaborate. They turned right, into a wide driveway that led off the lane. The high hedge curved with them, running off into the distance beyond the pair of impressive wrought-iron gates barring the men's way. Neither of them broke step: In silence both raised their left arms in a kind of salute and passed straight through, as though the dark metal were smoke.

The yew hedges muffled the sound of the men's footsteps. There was a rustle somewhere to their right: Yaxley drew his wand again, pointing it over his companion's head, but the source of the noise proved to be nothing more than a pure-white peacock, strutting majestically along the top of the hedge.

25 comments:

  1. Ymddangosodd dau ddyn o nunlle, ychydig llathau ar wahan yn y lôn cul golau lleuad. Am eiliad sefon nhw yn hollol lonydd, eu hudlathau yn pwyntio at frestiau ei gilydd; ac wedyn, yn adnabod ei gilydd, rhodd eu hadlathau (ar gadw) dan eu clogiau a dechreuon cerdded yn gyflym yn yr un cyfeiriad.

    ReplyDelete
  2. "Newyddion?" gofynnodd yr un talach.
    "Y gorau," atebodd Severus Snipe.
    Cafodd y lôn ei ymylu yn y chwith gan fieri wyllt sy'n tyfu isel, yn y dde gan wrych uchel sy'n torri yn daclus. Chwifiodd y clogau hir dynion o amgylch eu traed tra gorymdeithon nhw.

    ReplyDelete
  3. Diolch, Jaque, am y rheiny. Reit, 'te - mae gyda ni ychydig ddyddiau i drafod y paragraff cynta, wrth i fersiynau eraill ddod i law. Symudwn ni ymlaen wedyn ar ddydd Mercher i'r ail lot.

    Beth am inni osod dyddiadau ac amserau penodol ar gyfer postio cyfieithiadau, fel ein bod ni i gyd yn postio'n fersiynau ar yr un pryd (neu o leiaf ein bod ni i gyd wedi gorffen y gwaith cyfieithu, er mwyn medru trafod y darnau)?

    Pawb i bostio'r paragraff cyntaf erbyn nos yfory?

    Awn ni'n *araf* trwy'r testun yma, beth bynnag, ie? - trafod, trafod, trafod.

    ReplyDelete
  4. HARRI POTTER A’R CYSEGRAU ANGHEUOL
    PENNOD 1: YR ARGLWYDD DU, ESGYN

    Ymddangosai y dau ddyn oddi ar unlle, ychydig o lathau ar wahân, yn y lôn loergan, gul. Am ailiad, safai'n eitha stond, hudlathau wedi'i cyfeirio tuag at ddwyfron ei gilydd; wedyn, yn adnabod ei gilydd, gosodasant eu hudlathau o'r neilltu, o dan eu clogynnau, a dechrau cerdded yn sionc yn yr un cyfarwyddyd.

    ReplyDelete
  5. Daeth y ddau ddyn o ddim, gan ymddangos ychydig lathenni o'i gilydd yn y lôn gul dan olau'r lloer. Am eiliad safent yn stond, hudlath y naill yn pwyntio at frest y llall, ac yna, o adnabod ei gilydd, cuddio'r llathau dan eu clogau a dechrau cerdded yn gyflym i'r un cyfeiriad.

    ReplyDelete
  6. The yew hedges muffled the sound of the men's footsteps.

    Roedd gwrychoedd ywen ,yn gorchuddio y swn troed gyda y dyn.

    There was a rustle somewhere to their right: Yaxley drew his wand again,

    Roedd yn siffrwd yn rwyle i llaw: roedd Yaxley tynnu’r ei hudlath* e eto,

    pointing it over his companion's head, but the source of the noise proved to be

    yn ei pwntioat e dros ben eich cydymaith e, ond roedd yn profi yr fflynhonnell y swn

    nothing more than a pure-white peacock, strutting majestically along the top of

    dim ond un paun gwen-lan , yn mawreddog cynheilio, ar hyd y pen y gwrych.

    the hedge.
    y gwrych.

    I was going to use “gwialen” but decided I should err on the side of caution.

    Mae anhawster fi yn sut deffyndio yr "eich..ei", etc. (UN anhawster 'da fi!)

    Diolch!

    Mona
    I did the last paragraph because I figured by time I was done, that is where we'd be! :)

    ReplyDelete
  7. “The two men appeared…”
    Ymddangosodd dau ddyn
    Ymddangosai y dau ddyn
    Daeth y ddau ddyn

    Traeglad medal ar ôl “y”
    “ymddangosodd” dw i’n derbyn, gan mai’r ffurf amherffaith yw “ymddangosai”
    ond pam “death” pan ystyr y gair yn Saesneg yw “appeared”?

    out of nowhere,”
    o nunlle,
    oddi ar unlle,
    o ddim,
    nid yw ystyr y frawddeg “nothing” hytrach, “nowhere.”
    Gyda llaw, sut dyfnyddir “oddi ar” ac “oddiwrth” yn gywir?



    a few yards apart
    ychydig llathau ar wahan
    ychydig o lathau ar wahân,
    gan ymddangos ychydig lathenni o'i gilydd
    Pam symud berf fel hyn, fel ei fod yn ymddangos yn nghymal arddodiadol
    Ydi “ychydig lathenni”’n dro o ymadrodd mwy llenyddol na “ychydig o lathau”?
    “O’I gilydd” dw I’n deall, hyd yn oed eich bod chi’n dweud mwy na’r awdur. Efallai gawn led-awgrymu ei hystyr?



    in the narrow, moonlit lane.
    yn y lôn cul golau lleuad.
    yn y lôn loergan, gul.
    yn y lôn gul dan olau'r lloer.
    Allech chi sylwadu ar drefn yr ansoddeiriau yn Gymraeg?
    Ac unwaith eto, sut cyfieithwch chi “moonlit” (ansoddair) gan “dan olau’r lloer”? Does dim ansoddair priod amdani, n’d’oes?
    Ac oes gan “lloer” ystyr tipyn bach gwahanol ‘te “lleuad”?

    ReplyDelete
  8. i) Ie - dydy'r amherffaith ddim yn gweithio yn fan hyn (ymddangosai x = 'x would appear' / 'x was (continually) appearing'. Mae ymddangosodd x, ar y llaw arall yn cyfleu 'x appeared (once and for all, done, action over [for now]').

    ii) Pam daeth? Wel, nid am resymau gramadegol. Yr un idiom sydd yma ag sydd yn y Saesneg 'They came from nowhere'. Ychwanegais yr 'ymddangos' nes ymlaen.

    iii) o nunlle vs o ddim - hmmm, wel just mater o fod yn well gen i sw^n y llall, siwr o fod.

    iv) oddi ar vs oddi wrth; wel, mae ystyron craidd y rhagddodiaid syml yno i'w teimlo o hyd, on'd y'n nhw ('ar' vs 'wrth'), felly '[symud] oddi wrth berson / bwynt' ('(away) from') ond '[symud] oddi ar arwynebedd' '(off) from'.

    Yma, gyda nunlle, yr arddodiad syml o yn unig sydd eisiau.

    v)ychydig lathenni vs ychydig o lathenni. Cwestiwn da - beth yn union yw'r gwahaniaeth? Mae hyn yn gwestiwyn dyrys; am y tro, byddai'n well gen i ddweud hyn yn unig - mae'r ddau opsiwn yno gydag 'ychydig'.

    vi) o'i gilydd vs ar wahân - fi sy'n bod yn fympwyol fan hyn!

    vii) Am wn i, mae trefn ansoddeiriau yn Gymraeg yn union fel ag y mae yn Saesneg; h.y. y rhai mwyaf cyffredin i ddechrau.

    Mae Peter Wynn Thomas yn esbonio'r sefyllfa mewn ffordd fanylach, ac yn dweud mai yn y drefn hon y bydd ansoddeiriau'n ymddangos mewn trefn niwtral:

    i) ansodderiau enwol (e.e. (dyn) eira; (siop) gig
    ii) ans. sy'n cyferio at faint
    iii) ans. lliw
    iv) ans. sydd yn dynodi tarddle
    v) ans. berfol yn -adwy neu -edig
    vi) ans. sy'n dynodi oed
    vii) ans. sy'n dynodi ansoddau a briodolir i'r pen gan rywun sy'n mynegi barn oddrychol (e.e. diddorol, godidog)
    viii) ans. dangosol (e.e. hwn, hyn, yma)

    viii)ie - teimlais fod lloergan ychydig yn farddonol (ond eto, wedi meddwl am y peth, onid dyna'r teimlad sydd ei eisiau fan hyn?)

    ix) mae lloer ychydig yn fwy barddonol na lleuad (fel y gwahaniaeth rhwng cariad a serch), a chanddo gysylltiadau gyda geiriau megis lloerig, etc.

    [ond nid y gair olaf ddylai hyn fod!]

    ReplyDelete
  9. Â chyfeirnod I’r postiad echflaenorol:
    ix) Felly, oes ansoddair am “moonlit”? Dw I’n hapus efo “dan olau Lloer” os mynygiant gorau ydi hwn.
    vii) Diolch am ddyfyniad Meter Wynn Thomas!!!
    i) Dw I ddim yn siwr, o hyd, beth dw I’n ei feddwl am “ymddangos” yn yr ail gymal. Ie, ystyr y cymal goddfrych yw “they came” ond, mae “ymddansodd” yn cynnal teimlad annaearol y darn, fel “lloergan” tydi?

    ReplyDelete
  10. Na chredaf na phostiodd fy mhostiad efo’r ail frwaddeg echdoe! Gobetihio mai amserol ydi hwn, ac nag achub y blaen ar ddim.

    For a second they stood quite still, wands directed at each other's
    chests; then, recognizing each other, they stowed their wands beneath their cloaks and started walking briskly in the same direction.

    For a second they stood quite still,
    Am eiliad sefon nhw yn hollol lonydd,
    Am ailiad, safai'n eitha stond,
    Am eiliad safent yn stond,
    i) Ai rydych chi ddim yn cynnwys gair am “quite” yn cyfieithiad?

    wands directed at each other's chests;
    eu hudlathau yn pwyntio at frestiau ei gilydd;
    hudlathau wedi'i cyfeirio tuag at ddwyfron ei gilydd;
    hudlath y naill yn pwyntio at frest y llall,

    then, recognizing each other,
    ac wedyn, yn adnabod ei gilydd,
    wedyn, yn adnabod ei gilydd,
    ac yna, o adnabod ei gilydd,

    they stowed their wands beneath their cloaks
    rhodd eu hadlathau (ar gadw) dan eu clogiau
    gosodasant eu hudlathau o'r neilltu, o dan eu clogynnau,
    cuddio'r llathau dan eu clogau
    ii) “llath” talfyriad o “hudlath” yw?

    and started walking briskly in the same direction.
    a dechreuon cerdded yn gyflym yn yr un cyfeiriad.
    a dechrau cerdded yn sionc yn yr un cyfarwyddyd.
    a dechrau cerdded yn gyflym i'r un cyfeiriad.
    iii) Oes gair yn fwy uniongyrchol am “briskly” na chyflym?

    ReplyDelete
  11. Ydy hyn yn cynrychioli'n uniongyrchol beth mae Peter Wynn Thomas yn ei ddynodi yn uwch:
    i) ansodderiau enwol (e.e. (dyn) eira; (siop) gig
    ii) ans. sy'n cyferio at faint (siop cig mawr)
    iii) ans. Lliw (siop cig mawr llwyd)
    iv) ans. sydd yn dynodi tarddle (dw I ddim yn deall)
    v) ans. berfol yn -adwy neu –edig (dyn eira mawr gwyn, [tarddle], bendigedig,
    vi) ans. sy'n dynodi oed (Siop cig mawr llwyd pren?—[tarddle] fforddiadwy, newydd,
    vii) ans. sy'n dynodi ansoddau a briodolir i'r pen gan rywun sy'n mynegi barn oddrychol
    e.e. diddorol, godidog) (dyn eira mawr gwyn, [tarddle], bendigedig, blynyddol, hardd,
    viii) ans. dangosol (e.e. hwn, hyn, yma) (Siop cig mawr llwyd pren?—[tarddle] fforddiadwy, newydd, diddorol, yna

    Bydd, falle, o help ini sy'n trio cyfieithu i'r Gymraeg, credaf. ?

    ReplyDelete
  12. NB:

    i) treiglo ansoddeiriau benywaidd unigol
    ii) defnyddio'r fannod gyda'r dangosolion
    iii) tarddle: 'Cymreig, Ffrengig' etc.

    y siop gig fawr goch Gymreig soffistigedig newydd odidog arall honno.

    ReplyDelete
  13. viii) ans. dangosol (e.e. hwn, hyn, yma) (Felly:
    Y siop gig fawr llwyd Gymreig ?—[ fforddiadwy, newydd, soffisticedig yna
    Diolch.

    Awn ymlaen, 'te?

    "News?" asked the taller of the two.
    "The best," replied Severus Snape.
    The lane was bordered on the left by wild, low-growing brambles, on the right by a high, neatly manicured hedge.

    "Newyddion?" gofynnodd talach y ddau.
    "Y gorau," atebodd Seferys Sne^p.
    Amlinellid y lo^n ar y chwith ganfieri isel-dyfedwy, gwyllt; ar y dde gan glawdd uchel, wedi'i drin yn daclus.

    "Newyddion?" gofynnodd yr un talach.
    "Y gorau," atebodd Severus Snipe.
    Cafodd y lôn ei ymylu yn y chwith gan fieri wyllt sy'n tyfu isel, yn y dde gan wrych uchel sy'n torri yn daclus.

    ReplyDelete
  14. "Newyddion?" gofynnodd y talaf o'r ddau.
    "Y gorua," atebodd Seferws S. [?]
    Roedd mieri isel gwyllt yn tyfu ar hyd ymyl chwith y lôn, ac ar y dde, gwrych uchel a oedd wedi'i dwtio fel petai gyda siswrn bysedd.

    ReplyDelete
  15. "News?" asked the taller of the two.
    "Newyddion?" gofynnodd talach y ddau.
    "Newyddion?" gofynnodd yr un talach.
    "Newyddion?" gofynnodd y talaf o'r ddau."
    i) Pryd defnyddir cystrawen gyda "o" yn lle cystrawen genidol?

    "The best," replied Severus Snape.
    "Y gorau," atebodd Seferys Sne^p.
    "Y gorau," atebodd Severus Snipe.
    Y gorau," atebodd Seferws S.

    The lane was bordered on the left by wild, low-growing brambles,
    Amlinellid y lo^n ar y chwith ganfieri isel-dyfedwy, gwyllt;
    Cafodd y lôn ei ymylu yn y chwith gan fieri wyllt sy'n tyfu isel,
    Roedd mieri isel gwyllt yn tyfu ar hyd ymyl chwith y lôn,
    ii) Mae'n debyg mai cystrawen goddefol sydd mwy cyffredin yn Saesneg, on'd ydi?

    on the right by a high, neatly manicured hedge.
    ar y dde gan glawdd uchel, wedi'i drin yn daclus.
    yn y dde gan wrych uchel sy'n torri yn daclus.
    ac ar y dde, gwrych uchel a oedd wedi'i dwtio fel petai gyda siswrn bysedd.
    iii) "a oedd wedi'i dwtio?" Rydw i'n gweld cyfieithiad unio, bron gair wrth air o Saesneg, ond pryd y mae cystrawen fel hyn yn dderbyniol? A phryd peidio?

    ReplyDelete
  16. i) Mae 'na wahaniaeth rhwng, e.e.

    a) bocsaid Aled 'Aled's boxful' a
    b) bocsaid o Aled 'a boxful of Aled'

    Mae'n helpu i feddwl yn nhermau'r gwahaniaeth rhwng (a) y genidol normal ('adnominal genitive') a (b) y genidol adrannol ('partitive genitive')

    Yr un gwahaniaeth sydd gyda ni fan hyn:

    A) talach y ddau 'the 'talach' which belonged to the two'
    B) y talach o'r ddau 'the taller of the two'

    ii) "Mae'n debyg fod y gystrawen oddefol yn fwy cyffredin..."

    Nid cystrawen oddefol sydd yn y Saesneg, am a wela' i. Onid ansoddair yw 'bordered' fan hyn?

    Yn sicr, mae "amlinellid" ac (yn fwy fyth) "cafodd... ei amlinellu" yn awgrymu'r *weithred*. Dydw i ddim yn credu fod 'amlinellu' yn siwtio fan hyn, beth bynnag; mae'n bosibl taw 'nghlust i sydd ar fai, ond wedwn i fod ystyron fel "outline", "sketch out" yn rhy gryf ynddo.

    iii)mae "wedi'i drin yn daclus" yn iawn, mae'n siwr (er taw 'which is cutting' yw ystyr "sy'n torri"). Fi sydd ar fai fan hyn, efallai - mae'n gas gen i 'topiary', ac mae'n bosibl imi gyfieithu ychydig yn feirniadol! Imi, rhaid dweud, ystyr "perth daclus" fyddai un a gafodd ei phlygu'n ddeche gan ffarmwr sy'n gwybod be di be, er mwyn cadw cynefin i adar a lloches i wartheg, nid un sydd wedi cael ei thrin fel se'n arddurn.

    ReplyDelete
  17. "Newyddion?" gofynnodd y talaf o'r ddau.
    Y gorau," atebodd S S.
    Roedd mieri isel gwyllt yn tyfu ar hyd ymyl chwith y lô, ac ar y dde, gwrych uchel a oedd wedi'i drin yn daclus.

    Postiaf y talp nesaf, o'r gorau? (Brenhines bwthyn!) :)

    The men's long cloaks flapped around their ankles as they marched.
    "Thought I might be late," said Yaxley, his blunt features sliding in and out of sight as the branches of overhanging trees broke the moonlight.

    Clepiodd clogynnau hir y dynion o gylch eu fferau wrth iddynt orymdeithio.
    "Ro'n i'n meddwl byddwn i'n hwyr," meddai Yaxley, yn llithro ei wynepryd hebawch i mewn ac allan o olwg wrth i geinciau coed bargodol dorri'r lloergan.

    ReplyDelete
  18. Dw i'n yn ôl! Dw i'n bron gorffen gyda fy swydd "freelance"--yn diwedd!

    "Ro'n i meddwl byddwn i'n hwyr," meddai Yaxley, ei nodweddion ddi-awch yn llithro i mewn ac allan o olwg wrth torrodd ganghennau sy'n taflu y golau lleuad. "Roedd'n anoddach bach na disgwyliais i. Ond dw i'n gobeithio ei fod e'n fodlon. Dych chi'n swnio hyderus bydd dy dderbyniad yn dda?"

    ReplyDelete
  19. ***
    Clepiodd eu clogau hir am eu fferrau wrth iddynt fartsio.

    "Roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n hwyr," meddai Yaxley, a'i wyneb XXX yn llithro i'r golwg ac yna'n diflannu wrth i ganghennau'r coed uwchben dorri ar draws golau'r lloer. "Roedd ef ychydig yn anos nag oeddwn i'n disgwyl, ond rwy'n gobeithio y bydd e'n hapus. Rydych chi'n swnio'n hyderus y cewch chi dderbyniad da."
    ***

    Rwy'n dal i feddwl am y ffordd orau i gyfieithu "blunt" - a dydw i ddim yn gwybod o'r cyd-destun pa fath o 'reception' sydd yma (fydd bwyd?).

    ReplyDelete
  20. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete
  21. 1. Clepiodd clogynnau hir y dynion o gylch eu fferau wrth iddynt orymdeithio.
    Chwifiodd y clogau hir dynion o amgylch eu traed tra gorymdeithon nhw.
    Clepiodd eu clogau hir am eu fferrau wrth iddynt fartsio.

    2. "Ro'n i'n meddwl byddwn i'n hwyr," meddai Yaxley,
    "Ro'n i meddwl byddwn i'n hwyr," meddai Yaxley,
    "Roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n hwyr," meddai Yaxley
    i) Cymal isradd, "y", gwn.

    3. yn llithro ei wynepryd hebawch i mewn ac allan o olwg;
    ei nodweddion ddi-awch yn llithro i mewn ac allan o olwg
    a'i wyneb XXX yn llithro i'r golwg ac yna'n diflannu

    4. wrth i geinciau coed bargodol dorri'r lloergan.
    wrth i ganghennau'r coed uwchben dorri ar draws golau'r lloer.
    ii) "Ceinciau, canghennau" dewis personol?

    5. "'Chydig tringarach na dysgwliwn,
    "Roedd'n anoddach bach na disgwyliais i.
    "Roedd ef ychydig yn anos nag oeddwn i'n disgwyl,

    6. ond gobeithio bydd ynte'n fodlon.
    Ond dw i'n gobeithio ei fod e'n fodlon.
    ond rwy'n gobeithio y bydd e'n hapus.

    7. Rydych chi i'ch clywed yn hyderus bydd eich derbyniad yn dda?"
    Dych chi'n swnio hyderus bydd dy dderbyniad yn dda?
    Rydych chi'n swnio'n hyderus y cewch chi dderbyniad da."
    iii) "y" cymal isradd unwaith eto. Cwestiwn am ddefnyddio "eich clywed" Rydw i wedi gweld math o gystrawen a nid ydi'n glir pan iddo ddefnyddio.

    iv) Pa air sydd y gorau i gyfieithu "blunt" 'te? blunt1 a. 1. (= not sharp): pwl, di-awch, heb fin, di-fin, heb awch, Lit: occ: aflym (f. aflem, pl. aflymion); Geom: - angle, ongl aflem/ a - instrument, erfyn di-awch; (= without a point): pwl, heb flaen, di-flaen, trwynbwl. 2. (pers.): plaen, swta, di-lol, di-dderbyn-wyneb, ffwr-bwt, di-flewyn-ar-dafod, heb flewyn ar dafod, dis|eremoni, S: swrth; the - fact, y ffaith greulon/ y caswir m, y gwir cas m.
    v) Pa air am "reception"? Yn un ffordd, pryd bwyd yw o, ond credaf bod ystyr "reception" y mae Yaxley yn siarad amdano, yn fwy fel "croeso" neu, "Ni fydd o'n eich lladd chi, dyna sut y gwyddom ei fod e'n hapus."

    reception n. 1. (in most senses): derbyniad(-au) m. 2. (of speech. idea &c/: derbyniad m, croesawiad(-au) m: a warm ~, (i) croeso m, derbyniad brwd/gwresog m; (ii) Iron: derbyniad poeth/twym. 3. (a) (formal): derbyniad(-au) m. croeso m, croesawiad(-au) m; * GEIRIADUR YR ACADEMI, Bruce Griffiths and Dafydd Glyn Jones, GWASG PRIFYSGOL CYMRU, (CARDIFF, 1995)

    ReplyDelete
  22. i) Cymal isradd, "y".

    Mae hyn yn ddewisol, i raddau helaeth, mewn iaith anffurfiol.

    ii) "Ceinciau, canghennau" dewis personol?

    Mae 'ceinciau' yn swnio'n od iawn yn y cyd-destun yma. Am wn i, mae'n cael ei ddefnyddio yn fwyaf aml ar gyfer ceinciau cerddorol yn hytrach na darnau o goed.

    iii) "eich clywed"

    e.e. "rwy'n eich clywed" - 'I hear you'. Y rhagenw blaen yw'r *gwrthrych* yn Saesneg. Fel yn y Ffrangeg, 'je le connais' (nid *je connais il)

    iv) "blunt"

    Wn i ddim - dydy'r un o'r rheiny yn gweithio, nac ydyn nhw!? Rhyfedd - does dim awgrym gyda fi.

    v) "reception"

    os wyt ti'n iawn, yna 'croeso' yw'r gair. Mae'r Saesneg yn rhyfedd, nac yw ef? (your reception will be good) - mae 'good' yn od iawn yn fan'na i'm clust i.

    ReplyDelete

symbolau defnyddiol:
â ê î ô û ẃ ẁ ŵ Ẃ Ŵ
Â Ê Î Ô Û ý ỳ ŷ Ý Ŷ

tagiau html defnyddiol:
<b>print du</b>
<i>print italig</i>
<a href="http://gwefan">dolen we</a>
<a title="neges gudd">testun rollover</a>