Y bore ‘ma, es i i safle we’r Eisteddfod am y tro cyntaf ers tair blynedd, credaf. Mae'n siwr fy mod wedi petrysu edrych arno o’r blaen, gan y byddai wedi codi hiraeth arnaf fi, wrth feddwl na allwn fod yna yn ystod y Brifwyl.
Mae'n amlwg nad yw gweld yr Eisteddfod ar y we yr un peth â bod yna, ond, mae’n debyg bod y BBC yn ceisio cadw’n ymwybodol o rif y bobl sy’n gwylio’r digwyddiadau ar y Maes yr wythnos hon. Mae'r safle we yn cael ei datblygu i fod yn fwy eang a chyfeillgar i’r defnyddiwr bob blwyddyn. DA DROS BEN!
1.8.09
16 comments:
symbolau defnyddiol:
â ê î ô û ẃ ẁ ŵ Ẃ Ŵ
Â Ê Î Ô Û ý ỳ ŷ Ý Ŷ
tagiau html defnyddiol:
<b>print du</b>
<i>print italig</i>
<a href="http://gwefan">dolen we</a>
<a title="neges gudd">testun rollover</a>
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
Ie, bydd nifer ohonom ni'n gresynu ein bod ni'n gorfod colli'r Steddfod eleni. Rwy'n cofio'r tro diwethaf i'r Steddfod fod yn y Bala (1997?) - roedd yn ofnadwy o wych!
ReplyDeleteDiolch am yr anogaeth i fynd draw at y wefan!
Ie, gresyn mawr ydy, colli'r Steddfod. Ond, Flwyddyn Nesaf yn Jerwsalem, on'd ydy?
ReplyDeleteY cwestiwn mwy ydy, fyddi di ddim yn cywiro fy mhost???
Wedi gwneud! :)
ReplyDelete(Rwy'n cymryd taw ar Words sgwennoch chi'r darn; dylech chi fedru cymharu'r fersiynau)
Ba ddarn? Ba fersiwn? Dw i ddim yn gweld y cywiriadau.
ReplyDeleteNewidiais bethau hyn a fan draw drwyddi draw. Mae 'na ryw 10 o gywiriadau i gyd, rwy'n credu. Tro nesa' mi hala' i gopi atoch chi.
ReplyDeleteDyma'r rhai rwy'n eu cofio:
i) tair mlynedd
ii)newidiais yr holl gymalau isradd ('subordinate clauses')
iii)safle we... ei ddatblygu
iv) pob blwyddyn
Diolch.
ReplyDeletei) Tair mlynedd, wrth gwrs!
ii) yr holl gymylau isradd? Waw! Wel dyna'n union lle mae geni broblemau yn Gymraeg, ... mynegu syniadau neu meddyliau mwy cymhleth
iii) safle we ... ei ddatblygu, wrth gwrs unwaith eto!
iv) pob blwyddyn? Pam?
Mae'n ddrwg geni. Oeddit ti'n barod i gael cymaint o waith?
pob blwyddyn = enw ('noun')
ReplyDeletee.g. "Rwy'n caru pob blwyddyn."
'I love every year (coz they're all lovely)'
bob blwyddyn = adferfol ('adverbial')
e.g. "Rwy'n caru bob blwyddyn."
'I love every year (coz it's an annual event)', i.e. 'Every year, I love.'
Diolch.
ReplyDeleteOs gwelwch chi'n dda, gadewch imi ddarganfod arwyddocad y termau gramadegol, (mae'n ymarfer rhagorol)!
Ar hyn o bryd, dw i’n gwrando cystadleuaeth Richard Burton ac yn y blaen, ar y BBC. Yn y marn I, rhagleniaeth nôs Fercher yr Eisteddfod yw uchelbwynt y Brifwyl, o safbwynt o ddangos dawn actorion ifainc. Mae mynd I fyny ar y llwyfan a pherfformio ymson fel hyn, â chymaint o angerdd a dyfnder yn cymryd nid deheurwydd celfyddol yn unig, ond gradd hunan-ddealltwriaeth yn ogystal.
ReplyDeleteEr gwaethaf hynny, mae’n debyg oedd neb yn deilwng I dderbyn yr wobr. Siom yw hynny, ar ô l eu hymdrech. Ond, dw I’n sbo, mae rhaid cynnal safonau’r perfformiadau. Mae’n dda geni beidio gorfod gwneud y penderfyniad hwnnw!
Wrth gwrs, tydi hynny ddim yn bychanu rhag gweddill y buddigoliaethau yn yr Eisteddfod. Merch o’r Bala enillodd gwobr y Medal Rhyddiaeth, credaf.
Ie, mae'n arbennig o dda. Hoffwn i weld rhagor o sylw yn cael ei roi i'r Eisteddfod yn y wasg Brydeinig a dweud y gwir; mae'r wythnos i gyd yn "Britain's got Talent" o safon uchel iawn, jyst bod y "talent" yn wahanol i hynny sy'n denu sylw ar prime-time TV. Wedi dweud hynny, rhaid sicrhau bod yr Eisteddfod yn aros yn *Gymraeg*. Mae'r tueddiadau i gynyddu'r lefelau o ddwyieithrwydd ar y maes yn peri cryn dipyn o ofid imi. Er mwyn i ddwyieithrwydd yng Nghymru weithio mae *rhaid* cael llefydd uniaith Gymraeg.
ReplyDeleteAr dy iaith, Amryw...:
i) gwrando ar... (mae eisiau'r arddodiad)
ii)"o safbwynt dangos" (nid "... o ddangos...")
iii)"yn deilwng o"
iv) "eu hymdrechion"
v) Fedri di ddim defnyddio sbo fel berfenw. Ystyr "sbo" yw "mwn", "mae'n debyg", "'spose" - mae'n hollol anffurfiol a dydy e ddim yn ffitio i mewn i batrymau'r iaith fel arall. Yma, gelli di ddweud "Ond, sbo,..." neu "Ond... , sbo."
vi)dim "rhag" ar o^l "bychanu" ("tydi hynny ddim i fychanu gweddill y buddugoliaethau...")
vii) "Y Fedal Ryddiaeth" (benywaidd)
i) Yn ddiofalus oedd hwn!
ReplyDeletev) Felly, “Ond, sbo” yn ddigon priod I’r cydestun yma?
Beth am y ffurf cywir I fynegu’r berson gyntaf unigol? Yn sicr, tydi “dw” ddim yn ffitio, chwaith.
Oes grŵp o ferfau sy’n cymryd arddodiad, yn lle “yn” fel bychanu?
Ar hyn o bryd, dw i’n gwrando ar gystadleuaeth Richard Burton ac yn y blaen, ar y BBC. Yn y marn I, rhagleniaeth nôs Fercher yr Eisteddfod yw uchelbwynt y Brifwyl, o safbwynt dangos gofynnais fy hun am hynny dawn actorion ifainc. Mae mynd I fyny ar y llwyfan a pherfformio ymson fel hyn, â chymaint o angerdd a dyfnder yn cymryd nid deheurwydd celfyddol yn unig, ond gradd hunan-ddealltwriaeth yn ogystal.
Er gwaethaf hynny, mae’n debyg oedd neb yn deilwng o dderbyn yr wobr. Siom yw hynny, ar ô l eu hymdrechion. Ond, sbo, mae rhaid cynnal safonau’r perfformiadau. Mae’n dda geni beidio gorfod gwneud y penderfyniad hwnnw!
**Yn ychwanegol, mae’n dda geni beidio bod yn gyfrifol o adrodd uniongyrchol o ddigwyddiadau ar y Maes, chwaith! Enillydd oedd am yr Wobr Richard Burton, yr actor yr oeddwn I’n meddwl a oedd y gorau.**
(HELP! Cymalau!)
Wrth gwrs, tydi hynny ddim I fychanu gweddill y buddigoliaethau yn yr Eisteddfod. Merch o’r Bala enillodd gwobr y Fedal Rhyddiaeth, credaf.
sbo: na, fyddi di ddim yn ychwanegu dim at y gair i fynegi unrhyw berson. Mae hyn jyst fel "tybed!" - h.y. defnydd o'r berfenw ar ei ben ei hun.
ReplyDeletecymalau
Ie - mae angen tipyn o help arnat ti! :)
Dylen ni gael gweithdy cymalau, efallai - tasai diddordeb gyda phobl; mae'n wendid i bawb ar y cwrs.
Dyma ail-ysgrifennu dy baragraff:
Mae'n dda gen i nad ydw i'n gyfrifol am adrodd yn uniongyrchol am ddigwyddiadau ar y Maes. Enillydd Gwobr Richard Burton oedd yr actor yr oeddwn i'n meddwl taw ef oedd y gorau.
(???)
*WEL* roeddwn i'n agos efo'r cymal hwn ???
ReplyDeleteRoedd y cwestiwn arall a ofynnais ynglyn â ffurf person cyntaf unigol y berf bod, yn yr amser presennol. Gan ysgrifennu, defnyddir "yr ydw i" er engraifft, neu "rydw i"? *Sbo* na fydd "dw" yn briod. Cywir? Weithiau, hyd yn oed finnau sydd darllen cyfathrebiad, a meddwl, "Hmmm, mae'n nhw trio'n rhy galed!" Mae'n bwysig gwared safon yr iaith, heb fod yn anachronistig, credaf...neu, o leiaf, gwybod eich cynulleidfa. ?
1. I gywiro dy iaith:
ReplyDelete"Gan ysgrifennu, defnyddir "yr ydw i" er engraifft, neu "rydw i"? *Sbo* na fydd "dw" yn briod. Cywir?"
a) treiglad meddal ar ddechrau cwestiwn: "(a) ddefnyddir...?"
b) fedri di ddim defnyddio "sbo" fel hyn.
2. I ateb dy gwestiwn. Mae'n fater o pa mor ffurfiol rwyt ti eisiau bod. Fel yn Saesneg, wyt ti'n sgwennu "I am going to" neu "I'm going to" neu "I'm gonna". Yn yr un modd, cei sgwennu:
a) "Yr wyf yn..."
b) "Rwyf yn ..." neu "Rydw i'n..."
c) "Rwy'n..."
ch) "Dw i..." neu "W i"
d) "Dwi..."
etc.
recte: "Fel yn Saesneg, wyt ti'n sgwennu... ?" (Cwestiwn oedd hynny i fod).
ReplyDeleteDiolch am yr eglurhad, diolch yn fawr.
ReplyDeleteDychwelyd at "sbo" yr wdy, mae,n drwg gennyf. Oes ffurf mwy personol o ddweud, wrth ysgrifennu, "I suppose" heb ddyfnyddio "Mae'n debyg" sydd yn golygu rhwybeth mwy fel "It seems"
Byddai dyn yn meddwl, ar ôl darllen cymaint a threulio cymaint o amser yn astudio'r iaith, byddwn i'n ateb un rhan o'r cwestiynau hyn!