Des i o hyd i’r frawddeg hon, wrth ddarllen “Clywed Cynghanedd” a chan imi fethu â'i deall hi, penderfynais ei dadansoddi ar y blog.
Cywiriadau, os gweli di’n dda.
“Yr hyn ddigwyddodd oedd bod gwahanol feirdd wedi sylwi ar y gynghanedd naturiol oedd yn digwydd mewn gwahanol glymiadau o eiriau ac wedi mynd i’r afael a hi oherwydd ei harddwch a’i hud.”
Yr--y fannod
hyn--goddrych, rhagenw dangosol trydydd person unigol
ddigwyddodd--3ydd person unigol, gorffennol
oedd--berf bod, amherffaith, traethiadol
bod--cyflwyno cymal enwol
gwahanol--ansoddair yn goleddfu "feirdd"
feirdd--goddrych, enw lluosog
wedi--ategydd berfol gorffenol
sylwi--berfenw
ar--adroddiad
y--y fannod
gynghanedd--gwrthrych enw unigol benywaidd
naturiol--ansoddair yn goleddfu "cynghanedd"
oedd--berf "bod" ffurf berthynol
yn--ategydd berfol
digwydd--berfenw
mewn--adroddiad cyn enw amhendant
gwahanol--ansoddair yn goleddfu'r gwrthrych
glymiadau—treiglad meddal yn dilyn ansoddair, gwrthrych lluosog yn dynodi rhif
o--arddodiad rhwng dau enw
eiriau—treiglad meddal yn dilyn arddodiad, enw lluosog
ac--cysylltair
wedi--ategydd berfol gorffenol
mynd--berfenw
i'r--arddodiad collnod fanned
afael--enw, gwrthrych
â--arddodiad
hi--rhagenw ategol
oherwydd--arddodiad
ei--rhagenw 3ydd person unigol
harddwch--enw
a--cysylltair
'i--rhagenw mewnol
hud--enw
Yr hyn ddigwyddodd--prif gymal
oedd--berf gwpladol
bod--cyflwyno cymal mewnol
gwahanol feirdd wedi sylwi ar y gynghanedd naturiol--cymal enwol
oedd yn digwydd mewn gwahanol glymiadau o eiriau--cymal perthynol (goddrych cynghanedd)
ac wedi mynd i'r afael â hi--parhad cymal enwol (goddrych beirdd)
oherwydd ei harddwch a'i hud--ymadrodd arddodiadol
18.8.09
2 comments:
symbolau defnyddiol:
â ê î ô û ẃ ẁ ŵ Ẃ Ŵ
Â Ê Î Ô Û ý ỳ ŷ Ý Ŷ
tagiau html defnyddiol:
<b>print du</b>
<i>print italig</i>
<a href="http://gwefan">dolen we</a>
<a title="neges gudd">testun rollover</a>
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
Ie - dydy'r ystyr ddim yn rhy eglur. Rhaid darllen yng nghyd-destun y darn i gyd, rwy'n credu. Wyt ti'n cael y dyfyniad yma o'r llyfr ei hun, neu o'r adroddiad ar wefan y BBC fan hyn?
ReplyDeleteDyma gyfieithu i'r Saesneg fesul darn. Dydw i ddim wedi newid dy ddisgrifiadau gramadegol i gyd, er bod ambell i un efallai'n wahanol i'r hyn fyddai gramadegwyr yn eu defnyddio.
Yr hyn ddigwyddodd--prif gymal
oedd--berf gwpladol
= "That which happened was"
bod--y ferf 'bod' yna cyflwyno cymal isradd yn yr amherffaith
gwahanol feirdd-- goddrych i'r ferf 'bod'
wedi sylwi ar
= "that different poets had noticed"
y gynghanedd naturiol oedd yn digwydd-- gwrthrych i'r arddodiad 'ar' (ac felly yr hyn y sylwyd arno)
= "the natural cynghanedd which occurred"
mewn gwahanol glymiadau o eiriau--adferfol (lle yr oedd y gynghanedd naturiol yn digwydd)
= "in various combinations of words"
ac wedi mynd i'r afael hi--parhad cymal enwol (goddrych beirdd)
= "and [had] got to grips with it
oherwydd ei harddwch a'i hud.--ymadrodd arddodiadol
= "because of its beauty and charm."
Diolch. I ateb dy gwestiwn, de^s i a^'r darn oddi wrth y llyfr ei hun. Y tro cyntaf y darllenais i fo, ro'n i'n hollol syfrdanol. Ond ar o^l dadansoddi'r frawddeg fesul darn, cyrheiddais i bron i'r un cynllyniad fel tithau, heb yr "wedi." do'n i ddim yn gwybod beth ei wneud efo'r "wedi."
ReplyDeleteRoedd y frawddeg honno yn rhan o'r cyflwyniad.