
Oes 'na rywun sydd wedi cael gafael ar y cryno-ddisg newydd Cymraeg yng nghyfres y Smithsonian Folkways?
Dyma ddolen at y manylion.
Dydw i ddim wedi cael copi fy hun eto, ond mae'n swnio'n arbennig o dda, ac amrywiaeth hynod o artistiaid arno (o Ceri Rhys Mathews i Julie Murphy i Max Boyce... ie - Max Boyce!). Mae'n debyg, o'r hyn glywais i, fod y casgliad yn werth ei gael, a'r llyfryn sy'n mynd gyda'r CD yn swmpus a da hefyd.
Ac ein Ceri Jones, aelod o dy ddosbarth di ar y cwrs eleni, oedd yn ymddangosodd, hefyd, ar y crynoddisg, credaf.
ReplyDeleteie wir!? fe sy'n canu "Ym Mhontypridd" ife? Dydy'r rhagflas ddim yn rhoi amser i adnabod y llais, ond mae'r delyn yn wych.
ReplyDelete