
Bant â'r cart!
Rwyf wedi rhoi'r rhif "6" yng nghyfeiriad y blog am taw dyna'r lefel 'roeddwn i'n gyfrifol amdani eleni, ond mae croeso i unrhyw un alw heibio a chyfrannu. Rhowch wybod i eraill, felly.
Dylai hyn fod yn waith dysgu, yn ogystal â bod yn hwyl (!), felly byddaf i naill ai'n cywiro'r blogiadau neu yn nodi gwallau a rhoi'r cyfle ichi gywiro'ch blogiadau'ch hun. Cawn hefyd drafod materion gramadegol os bydd angen.
Lle yw hwn i siarad am bob dim dan haul - a gallwn wneud unrhyw beth o gwbl. Beth am ddechrau drwy sôn ychydig am ein profiadau yn ystod yr wythnos yn Alberta?
Gyrhaeddoch chi adre' heb broblemau? Sut aeth y cwrs? Ddysgoch chi ddigon? Oedd y bwyd yn dda? Fwynheuoch chi'r Noson Lawen?
Dw i'n ddim ymdeall "blogiau". Sori! Mona
ReplyDeleteAled, rwyt ti'n y gorau am wneud hyn. Roedd Cwrs Cymraeg yn brofiad bendigedig. Siaradwch Gymraeg, pawb! --jaque
ReplyDeleteMona: Dydy 'blogio' ddim yn anodd - rhaid jyst ymuno a theipio! Jyst fel e-bost, ond bod mwy yn gallu darllen! Dewch draw!
ReplyDeleteJaque: Oedd, on'd oedd y Cwrs yn ffantastig! Os gallwn gadw'n Cymraeg i fynd tan y flwyddyn nesaf bydd mwy byth o hwyl i gael! :)
Bawb - ymunwch! blogiwch! :)